John 1:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y gofynesont iddaw, Beth yntef? Ai Elias yvv ti? Ac ef a ddyuot, Na’c ef. A’dyvvedent, Ai ’r Prophwyt yw ti? Ac ef a wrthebawð, Na’c ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gofynasant iddo, Pa beth, ynte? Ai Elias wyt ti? A dywedodd, Nag wyf. Ai Prophwyd wyt ti? Ac attebodd, Nage.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gofynasant iddo: “Beth ynteu? Ai Elïas wyt ti?” A dywedodd: “Nage.” “Ai’r proffwyd wyt ti?” Ac atebodd: “Nage.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ofynasant iddo, Beth ynteu? Ai Eleias wyt ti? Yntau a ddywedodd, Nage. Ai'r Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nage.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly pwy wyt ti?” medden nhw. “Ai Elias y proffwyd wyt ti?” “Nage” meddai Ioan. “Ai y Proffwyd soniodd Moses amdano wyt ti?” Atebodd eto, “Na.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gofynasant iddo: "Beth, ynteu? Ai ti yw Elias?" "Nage," meddai. "Ai ti yw'r Proffwyd?" "Nage," atebodd eto.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ofynasant iddo, Beth ynte? Ai Elias wyt ti? Ac y mae efe yn dywedyd, Nag ê. Ai y Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nag ê.