John 1:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ioan ei hatebawdd, gan ddywedyt, Mi ’sy yn batyddio a dw f r: eithyr y mae vn yn sefyll yn eich plith, a’r nyd adwaenw‐chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Iddynt yr attebodd Ioan, gan ddywedyd, Myfi a fedyddiaf â dwfr. Yn eich canol y mae’n sefyll yr Hwn nid ydych chwi yn Ei adnabod;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Ioan iddynt, a dywedodd: “Yr wyf i ’n bedyddio mewn dwfr. Yn eich canol y mae un yn sefyll nad adwaenoch chwi,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi sydd yn bedyddio â dwfr; ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi yr hwn nid adwaenoch chwi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Ioan nhw, “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i fedyddio pobl. Ond mae rhywun dych chi ddim yn ei nabod yn sefyll yn eich plith chi —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Ioan hwy: "Yr wyf fi'n bedyddio du373?r, ond y mae yn sefyll yn eich plith un nad ydych chwi'n ei adnabod,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi wyf yn bedyddio mewn dwfr: yn eich canol chwi y mae un yn sefyll, yr hwn nid adwaenoch chwi,