John 1:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Sef y testolaethei Ioan, gan ddywedyt, Ys gwelais yr Yspryt yn descen d o’r nef megis colom b en, ac hi a a arosei arnaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thystiolaethodd Ioan gan ddywedyd, Gwelais yr Yspryd yn disgyn, fel colommen, o’r nef, ac arhosodd Arno;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thystiodd Ioan, a dywedodd: “Gwelais yr ysbryd yn disgyn fel colomen o’r nefoedd, ac arhosodd arno ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Mi a welais yr Ysbryd yn disgyn megis colomen, o'r nef, ac efe a arhosodd arno ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Ioan yn dweud hyn: “Gwelais yr Ysbryd Glân yn disgyn o'r nefoedd fel colomen ac yn aros arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thystiodd Ioan fel hyn: "Gwelais yr Ysbryd yn disgyn o'r nef fel colomen, ac fe arhosodd arno ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Yr wyf wedi gweled yr Yspryd yn disgyn fel colomen allan o'r Nef, ac a arosodd arno ef.