John 1:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi ny d adnabum ef: eithr yr hwn am d anvonawdd i vatydddio a dw f r, y ef a ddyvot wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Yspryt yn descen d ac yn aros yn vvastat arnaw, hwnw yw’r vn ’sy yn batyddio a’r Yspryt glan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac myfi nid adwaenwn Ef; eithr yr hwn a’m danfonodd i fedyddio â dwfr, Efe a ddywedodd wrthyf, “Ar bwy bynnag y gwelych yr Yspryd yn disgyn ac yn aros Arno, Efe yw yr Hwn sy’n bedyddio â’r Yspryd Glân.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A minnau, nis adwaenwn ef, ond yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio mewn dwfr, dywedodd hwnnw wrthyf: ‘Y neb y gwelych yr ysbryd yn disgyn ac yn aros arno, hwnnw yw’r un sy’n bedyddio ag ysbryd glân.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a'm hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn, ac yn aros arno, hwnnw yw'r un sydd yn bedyddio â'r Ysbryd Glân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cyn hynny doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un, ond roedd yr un anfonodd fi i fedyddio â dŵr wedi dweud wrtho i, ‘Os gweli di'r Ysbryd yn dod i lawr ac yn aros ar rywun, dyna'r un fydd yn bedyddio â'r Ysbryd Glân.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond yr un a'm hanfonodd i fedyddio du373?r, dywedodd ef wrthyf, 'Pwy bynnag y gweli di'r Ysbryd yn disgyn ac yn aros arno, hwn yw'r un sy'n bedyddio 'r Ysbryd Gln.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a'm hanfonodd i fedyddio mewn dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar bwy bynag y gwelych yr Yspryd yn disgyn ac yn aros arno, hwnw yw yr un sydd yn bedyddio mewn Yspryd Glân.