John 1:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno clybot o’r ðau ddiscipul ef yn ymadrodd, a’ dilyn yr Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywodd y ddau ddisgybl ef yn llefaru, a chanlynasant yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chlywodd ei ddau ddisgybl ef yn dywedyd a chanlynasant yr Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ddau ddisgybl a'i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ddau ddisgybl glywodd beth ddwedodd Ioan yn mynd i ddilyn Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd ei ddau ddisgybl ef yn dweud hyn, ac aethant i ganlyn Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r ddau Ddysgybl a'i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu.