John 1:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a droes, ac y gwelawdd hwy yn dilyn, ac a edyuot, wrthwynt, Pa beth a geisiwch? A’ hwy a ddywedesont wrthaw Rabbi (yr hyn o ei ddeongl yw, Athro, p’le ðwyt yn trigio?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi troi o’r Iesu, a’u gweled hwynt yn canlyn, dywedodd wrthynt, Pa beth a geisiwch? A hwy a ddywedasant Wrtho, Rabbi (yr hyn o’i gyfieithu yw, Athraw), pa le yr arhosi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Troes yr Iesu, ac wrth eu gweled yn canlyn, dywed wrthynt; “Beth yr ydych yn ei geisio?” Meddent hwythau: “Rabbi (yr hyn a alwn ni, o’i gyfieithu, yn Athro), ym mha le yr wyt ti’n aros?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr Iesu a droes; a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho ef, Rabbi, (yr hyn o'i gyfieithu yw, Athro,) pa le yr wyt ti yn trigo?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Trodd Iesu a'u gweld nhw'n ei ddilyn, a gofynnodd iddyn nhw, “Beth dych chi eisiau?” “Rabbi” medden nhw “ble rwyt ti'n aros?” (Ystyr y gair Hebraeg ‛Rabbi‛ ydy ‛Athro‛)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Troes Iesu, ac wrth eu gweld yn canlyn, dywedodd wrthynt, "Beth yr ydych yn ei geisio?" Dywedasant wrtho, "Rabbi," (ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Athro) "ble'r wyt ti'n aros?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a droes; ac yn eu canfod hwynt yn canlyn, efe a ddywed wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, (yr hyn a olyga, wedi ei gyfieithu, Athraw), pa le yr wyt ti yn aros?