John 1:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedawð wrthynt, Dewch, a’ gwelwch. Daethant, a’ gwel e sant lle yr oedd ef yn trigiaw, ac aros a wnaethant y gyd ac ef y die rnot hwnw: can ys ydd oedd hi yn‐cylch y ddecved awr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd wrthynt, Deuwch a gwelwch. Aethant, gan hyny, a gwelsant pa le yr arhosai; a chydag Ef yr arhosasant y diwrnod hwnw, a’r awr oedd ynghylch y ddegfed.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd ef wrthynt: “Deuwch a gwelwch.” Felly aethant a gwelsant ym mha le yr oedd yn aros, ac arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw; tua’r ddegfed awr ydoedd hi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch, a gwelwch. A hwy a ddaethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw: ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu nhw, “Dewch i weld.” Felly dyma nhw'n mynd i weld lle roedd yn aros, a threulio gweddill y diwrnod gydag e. Roedd hi tua pedwar o'r gloch y p'nawn erbyn hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrthynt, "Dewch i weld." Felly aethant a gweld lle'r oedd yn aros; a'r diwrnod hwnnw arosasant gydag ef. Yr oedd hi tua phedwar o'r gloch y prynhawn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Efe a ddywed wrthynt, Deuwch a chwi a welwch. Hwy a ddaethant gan hyny, ac a welsant lle y mae efe yn aros, ac a arosasant gyd âg ef y diwrnod hwnw: yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr.