John 1:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn yma a gafas, y vrawt Simon yn gyntaf, ac a ddyuot wrthaw, Ys cawsam y Messias, yr hwn o ei ddeongl, yw y Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cafodd hwn yn gyntaf ei frawd ei hun Shimon, a dywedodd wrtho, Cawsom y Meshiah, yr hwn o’i ddehongli yw Crist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae hwn yn cael yn gyntaf ei frawd ei hun, Simon, ac yn dywedyd wrtho: “Cawsom y Meseia” (yr hyn o’i gyfieithu yw Eneiniog).
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho, Nyni a gawsom y Meseias; yr hyn o'i ddeongl yw, Y Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a'r peth cyntaf wnaeth wedyn oedd mynd i chwilio am ei frawd Simon, a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r Meseia” (gair Hebraeg sy'n golygu ‛Yr un wedi ei eneinio'n frenin‛).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y peth cyntaf a wnaeth hwn oedd cael hyd i'w frawd, Simon, a dweud wrtho, "Yr ydym wedi darganfod y Meseia" (hynny yw, o'i gyfieithu, Crist).
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae hwn yn cael gafael yn gyntaf yn ei frawd ei hun, Simon, ac y mae yn dywedyd wrtho, Yr ydym ni wedi cael gafael yn y Messia (yr hyn wedi ei gyfieithu yw, Crist).