John 1:45 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cahel o Philip Nathanael a’ dywedyt wrthaw, Ys cawsam hvvn yscrifennawdd Moysen o hanaw yn y Ddeddyf, ef, a’r Prophwyti, ’sef Iesu o Nazaret map Ioseph.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cafodd Philip Nathanael, a dywedodd wrtho, Yr Hwn yr ysgrifenodd Mosheh am Dano yn y Gyfraith, ac y Prophwydi, a gawsom, sef Iesu, Mab Ioseph, yr Hwn sydd o Natsareth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae Phylip yn cael Nathanael ac yn dywedyd wrtho: “Yr hwn yr ysgrifennodd Moesen yn y gyfraith amdano, a’r proffwydi, — yr ydym ni wedi ei gael, Iesu fab Ioseff, o Nasareth.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith, a'r proffwydi, amdano, Iesu o Nasareth, mab Joseff.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna aeth Philip i edrych am Nathanael a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r dyn yr ysgrifennodd Moses amdano yn y Gyfraith, a'r un soniodd y proffwydi amdano hefyd — Iesu, mab Joseff o Nasareth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cafodd Philip hyd i Nathanael a dweud wrtho, "Yr ydym wedi darganfod y gu373?r yr ysgrifennodd Moses yn y Gyfraith amdano, a'r proffwydi hefyd, Iesu fab Joseff o Nasareth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae Philip yn cael Nathanael, ac a ddywed wrtho, Yr ydym wedi cael yr hwn yr ysgrifenodd Moses yn y Gyfraith, a'r Proffwydi, am dano, Iesu o Nazareth, mab Joseph.