John 1:48 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedei Nathanael wrtho, O b’le yr adnabuost vi? Yr Iesu atepawdd ac a ddyuot wrthaw, Cyn na galw o Philip dy di, pan oeddyt ’y dan y fficuspren, mi ith welwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wrtho y dywedodd Nathanael, O ba beth y’m hadwaenost i? Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Cyn na fu i Philip dy alw di, pan oeddit dan y ffigysbren, gwelais di.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Nathanael wrtho: “Sut yr wyt ti’n fy adnabod?” Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Cyn i Phylip dy alw di, pan oeddit dan y ffigysbren, gwelais di.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nathanael a ddywedodd wrtho, Pa fodd y'm hadwaenost? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a'th welais di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Sut wyt ti'n gwybod sut un ydw i?” meddai Nathanael. Atebodd Iesu, “Gwelais di'n myfyrio dan y goeden ffigys, cyn i Philip dy alw di.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd Nathanael iddo, "Sut yr wyt yn f'adnabod i?" Atebodd Iesu ef: "Gwelais di cyn i Philip alw arnat, pan oeddit dan y ffigysbren."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae Nathanael yn dywedyd wrtho, Pa fodd y mae dy fod yn fy adnabod i? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw, pan oeddit tàn y ffigysbren, mi a'th welais di.