John 1:50 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Iesu atepawdd ac a ddyuot wrthaw, Can ddywedyt o hanof y‐ty, Mi ath welais ydan y fficuspren, y credy? cai weled pethae mwy na ’rein.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Ai o herwydd dywedyd o Honof wrthyt, “Gwelais di dan y ffigysbren,” y credi? Pethau mwy na’r rhai hyn a weli.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Ai am i mi ddywedyd wrthyt fy mod wedi dy weled dan y ffigysbren, yr wyt ti’n credu? Cei weled mwy na hyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Oherwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a'th welais di dan y ffigysbren, a ydwyt ti yn credu? ti a gei weled pethau mwy na'r rhai hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai Iesu wrtho, “Wyt ti'n credu dim ond am fy mod i wedi dweud i mi dy weld di dan y goeden ffigys?” Yna dwedodd wrthyn nhw i gyd “Cewch weld pethau mwy na hyn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu ef: "A wyt yn credu oherwydd i mi ddweud wrthyt fy mod wedi dy weld dan y ffigysbren? Cei weld pethau mwy na hyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Ai o herwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a'th welais di dan y ffigysbren, yr ydwyt ti yn credu? ti a weli bethau mwy na'r rhai hyn.