John 1:51 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyuot wrthaw, Yn wir, yn wir dywedaf y‐chwy, Ar ol hyn y gwelwch y nef yn agoret, a’r Angelon Duw yn escen d, ac yn descen d ar y Map y dyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, Cewch weled y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac medd ef wrtho: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, chwi welwch y nef yn agored ac angylion Duw’n esgyn ac yn disgyn ar fab y dyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Credwch chi fi, byddwch chi'n gweld y nefoedd yn agor, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac yn dod i lawr arna i, Mab y Dyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai wrtho, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, cewch weld y nef wedi agor, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae yn dywedyd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, chwi a welwch y Nefoedd wedi agoryd, ac Angelion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn.