John 1:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny d efe oedd y goleuni hwnw, eithr e ddanfonesit y destiolaethu o’r goleuni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid oedd Efe y Goleuni, eithr fel y tystiolaethai am y Goleuni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid hwnnw oedd y goleuni, ond er mwyn iddo dystio am y goleuni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim Ioan ei hun oedd y golau; dim ond dweud wrth bobl am y golau roedd e'n wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Nid hwnw oedd y Goleuni, ond daeth fel y tystiolaethai am y Goleuni.