John 10:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YN wir, yn wir y dywedaf y chwi. Hwn nyd a y mewn drwy’r drws ir gorlan y deveit, anid dringo fforð arall, lleitr ac yspeiliwr yw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Yr hwn nad yw’n myned i mewn trwy’r drws i gorlan y defaid, eithr yn dringo o ochr arall, efe sydd leidr ac yspeiliwr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Ar fy ngwir, meddaf, i chwi, yr hwn nid yw’n dyfod i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid ond sydd yn dringo drosodd ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw hwnnw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy'r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Credwch chi fi, lleidr ydy'r un sy'n dringo i mewn i gorlan y defaid heb fynd drwy'r giât.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, lleidr ac ysbeiliwr yw'r sawl nad yw'n mynd i mewn trwy'r drws i gorlan y defaid, ond sy'n dringo i mewn rywle arall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy y drws i gorlan y defaid, ond sydd yn myned i fyny iddi o gyfeiriad arall, y mae hwnw yn lleidr ac ysbeiliwr: