John 10:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr y gwas‐cyfloc a’r hwn nyd yw bugail, ac ny phiae’r deveit, a wyl y blaidd yn dyvot, ac a edy yr deveit, ac a gilia, a’r blaidd ei ysglyfia, ac a darfa ’r deveit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y cyflog-ddyn, yr hwn nid yw fugail, yr hwn nid yw’r defaid ei eiddo ef, a wêl y blaidd yn dyfod, a gadael y defaid y mae, ac yn ffoi, a’r blaidd a’u cipia hwynt ac a’u gwasgara;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y gwas cyflog, nad yw’n fugail, ac nad yw’r defaid yn eiddo iddo ef ei hunan, — y mae hwn yn gweled y blaidd yn dyfod ac yn gadael y defaid ac yn dianc, ac y mae’r blaidd yn eu llarpio a’u tarfu —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y gwas cyflog, a'r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a'r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu'r defaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r gwas sy'n cael ei dalu i ofalu am y defaid yn rhedeg i ffwrdd pan mae'n gweld y blaidd yn dod. (Dim fe ydy'r bugail, a does ganddo ddim defaid ei hun). Mae'n gadael y defaid, ac mae'r blaidd yn ymosod ar y praidd ac yn eu gwasgaru nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r gwas cyflog, nad yw'n fugail nac yn berchen y defaid, yn gweld y blaidd yn dod ac yn gadael y defaid ac yn ffoi; ac y mae'r blaidd yn eu hysglyfio ac yn eu gyrru ar chwl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y gwas cyflog, ac heb fod yn fugail, eiddo yr hwn nid yw y defaid, sydd yn edrych ar y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi; a'r blaidd sydd yn eu hysglyfio ac yn eu gwasgaru: