John 10:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y mae y mi ddefait eraill, yr ei nid ynt or gorlan hon: a’ rhait i mi areiliaw yr ei hynny, ac wy a wrandawant vy lleferydd: Ac e vydd vn gorlan ac vn bugail.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A defaid eraill sydd Genyf, y rhai nid ynt o’r gorlan hon; hwythau hefyd y mae rhaid i Mi eu cyrchu, ac ar Fy llais y gwrandawant: a byddant un praidd, ac un bugail.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A defaid eraill sydd gennyf nad ydynt o’r gorlan hon, a’r rheiny hefyd y mae’n rhaid i mi eu cyrchu, a gwrandawant ar fy llais, a bydd un ddiadell, un bugail.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o'r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a'm llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gen i ddefaid eraill sydd ddim yn y gorlan yma. Rhaid i mi eu casglu nhw hefyd, a byddan nhw'n gwrando ar fy llais. Yna byddan nhw'n dod yn un praidd, a bydd un bugail.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gennyf ddefaid eraill hefyd, nad ydynt yn perthyn i'r gorlan hon. Rhaid imi ddod 'r rheini i mewn, ac fe wrandawant ar fy llais. Yna bydd un praidd ac un bugail.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A defaid eraill sydd genyf, y rhai nid ydynt o'r gorlan hon: y rhai hyny hefyd sydd raid i mi eu harwain, a hwy a wrandawant ar fy llais, a hwy a ddeuant yn un Praidd, un Bugail.