John 10:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny ddwc neb hi o dd yarnaf, eithyr mi ai dodaf hi y lavvr, ac mae i mi veðiant y’ vv dodi hi ylavvr, ac mae ym’ veddiant y’w chymmeryd drachefyn: y gorchymyn hwn a dd erbyniais y gan vy‐Tad.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid yw neb yn ei chymmeryd oddi Arnaf, eithr Myfi wyf yn ei dodi i lawr o Honof Fy hun. Meddiant sydd Genyf i’w dodi i lawr, a meddiant sydd Genyf i’w chymmeryd trachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais gan Fy Nhad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni chymerth neb ef oddiarnaf, ond yr wyf i yn ei roddi ef ohonof fy hun. Y mae gennyf hawl i’w roddi, ac y mae gennyf hawl i’w gael yn ôl. Dyma’r siars a gefais gan fy nhad.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i'w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i'w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does neb yn cymryd fy mywyd oddi arna i; fi fy hun sy'n dewis rhoi fy mywyd yn wirfoddol. Mae gen i'r gallu i'w roi a'r gallu i'w gymryd yn ôl eto. Mae fy Nhad wedi dweud wrtho i beth i'w wneud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw neb yn ei dwyn oddi arnaf, ond myfi ohonof fy hun sy'n ei rhoi. Y mae gennyf hawl i'w rhoi, ac y mae gennyf hawl i'w derbyn eilwaith. Hyn a gefais yn orchymyn gan fy Nhad."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni ddygodd neb hi oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei gosod i lawr o honof fy hun. Y mae genyf awdurdod i'w gosod i lawr, ac y mae genyf awdurdod i'w chymmeryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais oddi wrth fy Nhâd.