John 10:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ llawer o hanynt a ddywedent, Y mae cythrael ganthaw, ac mae wedy ynuydu: paam y gwrandewch ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd llawer o honynt, Cythraul sydd Ganddo, ac allan o’i bwyll y mae; paham Arno Ef y gwrandewch?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac meddai llawer ohonynt: “Y mae ganddo gythraul ac y mae o’i gof. Paham yr ydych yn gwrando arno?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llawer ohonynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandewch chwi arno ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd llawer ohonyn nhw'n dweud, “Mae cythraul ynddo! Mae'n hurt bost! Pam ddylen ni wrando arno?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd llawer ohonynt yn dweud, "Y mae cythraul ynddo, y mae'n wallgof. Pam yr ydych yn gwrando arno?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A llawer o honynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae yn ynfydu; paham yr ydych yn gwrando arno?