John 10:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ereill a ddywedent. Nid yw ’r ’ein ’eiriau vn a chythrael ganthaw: a all y cythrael agori llygait y daillion?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eraill a ddywedasant, Yr ymadroddion hyn nid ydynt eiddo un a chythraul ynddo. Ai cythraul all agoryd llygaid y deillion?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddai eraill: “Nid dyna eiriau dyn a chythraul ganddo; a all cythraul agor llygaid deillion?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eraill a ddywedasant, Nid yw'r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd pobl eraill yn dweud, “Dydy e ddim yn siarad fel rhywun wedi ei feddiannu gan gythraul. Ydy cythraul yn gallu rhoi golwg i bobl ddall?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd eraill yn dweud, "Nid geiriau dyn chythraul ynddo yw'r rhain. A yw cythraul yn gallu agor llygaid y deillion?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eraill a ddywedasant, Y rhai hyn nid ydynt eiriau un cythreulig. A all cythraul agoryd llygaid deillion?