John 10:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth yr Iuddaeon oy amgylch ef, ac y dywed e sont wrthaw, Pa hyd y peri i ni bedrusaw? A’ s ti yw ’r Christ, dyweid i ni yn eglur.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn ei amgylch Ef, gan hyny, y daeth yr Iwddewon, a dywedasant Wrtho, Pa hyd y cedwi ein henaid mewn ammheuaeth? Os Tydi yw y Crist, dywaid wrthym yn eglur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly gwnaeth yr Iddewon gylch amdano, a dywedasant wrtho: “Pa hyd yr wyt am ein cadw rhwng dau feddwl? Os ti yw’r Eneiniog, dywed wrthym yn blaen.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef, ac a ddywedasant wrtho, Pa hyd yr wyt yn peri i ni amau? os tydi yw'r Crist, dywed i ni yn eglur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r arweinwyr Iddewig yn casglu o'i gwmpas, a gofyn iddo, “Am faint wyt ti'n mynd i'n cadw ni'n disgwyl? Dywed wrthon ni'n blaen os mai ti ydy'r Meseia.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth yr Iddewon o'i amgylch a gofyn iddo, "Am ba hyd yr wyt ti am ein cadw ni mewn ansicrwydd? Os tydi yw'r Meseia, dywed hynny wrthym yn blaen."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny yr Iuddewon a'i hamgylchynasant ef, ac a ddywedasant wrtho, Hyd pa bryd yr wyt yn cythryblu ein henaid? Os tydi yw y Crist, dywed i ni heb gêl.