John 10:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a atepawdd, Dywedais y chwy, ac ny chredwch: y gweithredoedd yr yw vi yn gwneythu’r yn Enw vy‐Tat, yr ei hyn y a destolaethant am dana vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Atteb iddynt a wnaeth yr Iesu, Dywedais wrthych, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd y rhai yr wyf Fi yn eu gwneuthur yn enw Fy Nhad, y rhai hyn sy’n tystiolaethu am Danaf:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Iesu iddynt: “Dywedais wrthych, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf i yn eu gwneuthur yn enw fy nhad, y rhai hynny sydd yn tystio amdanaf i.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, y mae y rhai hynny yn tystiolaethu amdanaf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i wedi dweud,” meddai Iesu, “ond dych chi'n gwrthod credu. Mae'r gwyrthiau dw i yn eu gwneud ar ran fy Nhad yn dweud y cwbl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu hwy, "Yr wyf wedi dweud wrthych, ond nid ydych yn credu. Y mae'r gweithredoedd hyn yr wyf fi yn eu gwneud yn enw fy Nhad yn tystiolaethu amdanaf fi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu: y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhâd, y rhai hyny sydd yn tystiolaethu am danaf fi.