John 10:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ mi a rof yddynt vuchedd tragyvythawl, ac nys cyfer gollir wy byth, ac ny’ s treisia nep wy y maes om llaw i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Myfi bywyd tragywyddol yr wyf yn ei roddi iddynt, ac ni chyfrgollir hwynt yn dragywydd; ac ni chipia neb hwynt o’m llaw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yr wyf innau yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol, ac ni threngant hwy byth yn dragywydd, ac ni chipia neb hwy o’m llaw i.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw, a fyddan nhw byth yn mynd i ddistryw. Does neb yn gallu eu cipio nhw oddi arna i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi'n rhoi bywyd tragwyddol iddynt; nid nt byth i ddistryw, ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o'm llaw i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a minau wyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol, ac ni chyfrgollant ddim yn dragywydd, ac ni chipia neb hwynt allan o'm llaw i.