John 10:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
I hwn yð agor y drysor a’r devait a wrendy ei leferyð, a’ ei ðeveit ehun a eilw wrth y h’enw, ac ei dwc allan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
I hwn y drysor a egyr; a’r defaid, ar ei lais ef y gwrandawant; ac ei ddefaid ei hun a eilw efe erbyn enw, ac a’u harwain allan.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
I hwn yr egyr y porthor, a gwrendy’r defaid ar ei lais ef, a geilw ef ei ddefaid ei hunan wrth eu henw a thywys hwy allan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I hwn y mae'r drysor yn agoryd, ac y mae'r defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r un sy'n gwylio'r gorlan dros nos yn agor y giât iddo, ac mae ei ddefaid ei hun yn nabod ei lais. Mae'n galw pob un o'i ddefaid wrth eu henwau, ac yn eu harwain nhw allan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae ceidwad y drws yn agor i hwn, ac y mae'r defaid yn clywed ei lais, ac yntau'n galw ei ddefaid ei hun wrth eu henwau ac yn eu harwain hwy allan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
I'r hwn y mae y drws-geidwad yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrando ar ei lais ef; ac y mae efe yn galw ei ddefaid, bob un wrth eu henw, ac yn eu harwain hwy allan.