John 10:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a atepawdd y dd‐ wynt, Llawer o weithredoeð da a ddangoseis ywch’ o ywrth vy‐Tat: am ba vn o’r gweithredoeð hyn y llapyddiwch vi?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth Fy Nhad; am ba weithred o honynt y llabyddiwch Fi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Iesu iddynt: “Llawer o weithredoedd a ddangosais i chwi, rhai da, oddiwrth y tad: am ba weithred ohonynt yr ydych yn fy llabyddio?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a atebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o'r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Dych chi wedi fy ngweld i'n gwneud lot fawr o bethau da — gwyrthiau'r Tad. Am ba un o'r rhain dych chi'n fy llabyddio i?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu wrthynt, "Yr wyf wedi dangos i chwi lawer o weithredoedd da trwy rym y Tad. O achos prun ohonynt yr ydych am fy llabyddio?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a atebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth y Tâd: o achos pa fath weithred o honynt yr ydych yn fy llabyddio i?