John 10:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iuðeon a atepesōt iðo, gan ðywedyt, Am weithret da nid ym ith lapyddio, eithyr am gabl edigaeth, ’sef am y ti yn ðyn, wnethu r dy vn yn Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Atteb Iddo a wnaeth yr Iwddewon, Am “weithred dda” nid ydym yn Dy labyddio, eithr am gabledd, ac am i Ti, a Thi yn ddyn, wneuthur Dy hun yn Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Iddewon iddo: “Am weithred dda nid ydym yn dy labyddio di, ond am gabledd, ac am dy fod di, â thithau’n ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn dduw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iddewon a atebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dŷn ni ddim yn dy labyddio am wneud unrhyw beth da,” atebodd yr arweinwyr Iddewig, “ond am gablu! Am dy fod ti sydd ond yn ddynol, yn honni mai Duw wyt ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yr Iddewon ef, "Nid am weithred dda yr ydym am dy labyddio, ond am gabledd, oherwydd dy fod ti, a thithau'n ddyn, yn dy wneud dy hun yn Dduw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iuddewon a atebasant iddo,, Am weithred dda nid ydym yn dy labyddio di, ond am gabledd; ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn gwneuthur dy hun yn Dduw.