John 10:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan dd anvono ei ddeveit ehun allan, ydd a o ei blaen wy, a’r deueit y canlyn ef: can ys adwaenant y leferydd ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pan ei holl ddefaid ei hun a ddygwyd allan ganddo, o’u blaen y mae efe yn myned, a’r defaid a’i canlynant ef,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan dry ei holl ddefaid ei hun allan, y mae’n cerdded o’u blaen ac y mae’r defaid yn ei ddilyn am eu bod yn adnabod ei lais.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hwy: a'r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl iddo fynd â nhw i gyd allan, mae'n cerdded o'u blaenau nhw, ac mae ei ddefaid yn ei ddilyn am eu bod yn nabod ei lais.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fydd wedi dod 'i ddefaid ei hun i gyd allan, bydd yn cerdded ar y blaen, a'r defaid yn ei ganlyn oherwydd eu bod yn adnabod ei lais ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo droi allan yr oll o'i eiddo ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hwy, ac y mae y defaid yn ei ganlyn ef, oblegyd y maent yn adnabod ei lais ef.