John 10:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac aeth drachefyn tros Iorddanen, i’r lle y bysei Ioan yn batyddio yn gyntaf, ac a aro s awdd yno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth ymaith trachefn dros yr Iorddonen i’r lle yr oedd Ioan ar y cyntaf yn bedyddio,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth ymaith drachefn dros Iorddonen i’r fan lle y byddai Ioan yn bedyddio ar y cyntaf, ac arhosodd yno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen, i'r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna aeth Iesu yn ôl ar draws Afon Iorddonen i'r lle roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn bedyddio yn y dyddiau cynnar. Arhosodd Iesu yno
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Iesu i ffwrdd eto dros yr Iorddonen i'r man lle bu Ioan gynt yn bedyddio, ac arhosodd yno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a aeth ymaith drachefn tu hwnt i'r Iorddonen, i'r man lle yr oedd Ioan ar y cyntaf yn bedyddio, ac a arosodd yno.