John 10:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ llawer a ddaethant ataw, ac a ddywedent ny wnaeth Ioan vn gwyrth: eithyr pop peth oll ar a ddyvawd Ioan am y gvvr hwn, oeddent wir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac arhosodd yno: a llawer a ddaethant Atto, a dywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd, ond yr holl bethau, cynnifer ag a ddywedodd Ioan am Hwn, oeddynt wir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth llawer ato, a dywedasant: “Ni wnaeth Ioan un arwydd, ond eto yr oedd y cwbl a ddywedodd Ioan am hwn yn wir.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: ond yr holl bethau a'r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a daeth llawer o bobl allan ato. Roedden nhw yn dweud, “Wnaeth Ioan ddim gwneud unrhyw wyrth, ond roedd popeth ddwedodd e am y dyn hwn yn wir.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth llawer ato yno, ac yr oeddent yn dweud, "Ni wnaeth Ioan unrhyw arwydd, ond yr oedd popeth a ddywedodd Ioan am y dyn hwn yn wir."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd; ond yr holl bethau o ba natur bynag a'r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir.