John 10:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dyn dieithr ny’s canlynant, anid ciliaw ywrthaw. can ys nad adwaenant leferydd dieithreit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
oherwydd adnabod o honynt ei lais ef: ond dieithryn ni chanlynant ddim, eithr ffoant oddiwrtho, canys nid adwaenant lais y dieithriaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond byth ni ddilynant ddieithryn, ond dihangant oddiwrtho, am nad adwaenant lais dieithriaid.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fyddan nhw byth yn dilyn rhywun dieithr. Dyn nhw ddim yn nabod lleisiau pobl ddieithr, a byddan nhw'n rhedeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni chanlynant neb dieithr byth, ond ffoi oddi wrtho, oherwydd nid ydynt yn adnabod llais dieithriaid."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr un dyeithr ni chanlynant o gwbl, eithr ffoant oddi wrtho, oblegyd nad adwaenant lais dyeithriaid.