John 10:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y parabol hwnn a ddyvot yr Iesu wrthwynt ac ny ddyallesont wy pa bethae oeð yr hynn ddywedesei ef wrthwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y ddammeg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt; ond hwy ni wyddent pa beth oedd y pethau a lefarai wrthynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt, ond ni wyddent hwy beth oedd yr hyn a ddywedai wrthynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna'r darlun ddefnyddiodd Iesu, ond doedden nhw ddim yn deall ei ystyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyw-edodd Iesu hyn wrthynt ar ddameg, ond nid oeddent hwy'n deall ystyr yr hyn yr oedd yn ei lefaru wrthynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr alegori hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt; eithr hwy ni wybuant pa bethau oedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt.