John 10:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cynniuer oll a ddeuthant om blaen, llatron ynt ac yspeilwyr: eithyr ny wrandawawdd y deveit ddim hanwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr holl rai, cynnifer ag a ddaethant o’m blaen I, lladron oeddynt, ac yspeilwyr; eithr ni wrandawodd y defaid arnynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pawb a ddaeth o’m blaen i, lladron ydynt ac ysbeilwyr, ond ni wrandawodd y defaid arnynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cynifer oll ag a ddaethant o'm blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Lladron yn dwyn oedd pob un ddaeth o'm blaen i. Wnaeth y defaid ddim gwrando arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Lladron ac ysbeilwyr oedd pawb a ddaeth o'm blaen i; ond ni wrandawodd y defaid arnynt hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pawb ag a ddaethant o'm blaen i, lladron ydynt ac ysbeilwyr; eithr ni wrandawodd y defaid arnynt hwy.