John 11:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr a ’s rhodia nep y nos, ef a drancwydda, can na d oes goleuni yndaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os rhodia neb y nos, tripio y mae, gan nad yw y goleuni ynddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os rhodia neb yn y dydd, ni fagla am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn; ond os rhodia neb yn y nos, fe fagla, am nad yw’r goleuni ynddo.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae rhywun yn baglu wrth gerdded yn y nos, am fod dim golau ganddo.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os yw rhywun yn cerdded yn y nos, y mae'n baglu, am nad oes golau ganddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond os rhodia neb yn y nos, efe a dramgwydda, am nad yw y goleuni ynddo ef.