John 11:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvawt eu ddiscipulon, Arglwydd, a d yw ef yn hunaw e vyð holl iach.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedyd Wrtho, gan hyny, a wnaeth y disgyblion, Arglwydd, os huno y mae, iacheir ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd ei ddisgyblion wrtho felly: “Arglwydd, os ydyw wedi huno, fe wella”;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Arglwydd,” meddai'r disgyblion, “os ydy e'n cysgu, bydd yn gwella.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd y disgyblion wrtho, "Arglwydd, os yw'n huno fe gaiff ei wella."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedodd gan hyny y Dysgyblion wrtho, Arglwydd, Os yw ef yn huno, efe a adferir.