John 11:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddywed e sei am y angae ef: ac wy the a dybiesont mai am gysci at cynt hun y dywed e sei ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond dywedasai’r Iesu am ei farwolaeth; a hwy a dybiasant mai am hun cwsg y dywedasai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond soniasasai’r Iesu am ei farw ef, ond tybiasant hwy mai am hun cwsg y soniai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond marwolaeth oedd Iesu'n ei olygu wrth ‛gwsg‛. Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn golygu gorffwys naturiol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond at ei farwolaeth ef yr oedd Iesu wedi cyfeirio, a hwythau'n meddwl mai siarad am hun cwsg yr oedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr oedd yr Iesu wedi llefaru am ei farwolaeth ef: ond hwy a dybiasant ei fod ef yn dywedyd am hûn cwsg.