John 11:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy yddhi ddywedyt hyn, hi aeth ymaith, ac a’ alwodd Vair hi chwaer yn ddirgel, gan ddywedyt, E ddaeth y Dysciawdur ac y mae yn galw am danati.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dywedyd hyn yr aeth hi ymaith, a galwodd Mair ei chwaer, yn ddirgel, gan ddywedyd, Yr Athraw a ddaeth ac a’th eilw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi dywedyd hyn, aeth ymaith a galwodd ei chwaer Mair yn ddistaw a dywedyd: “Y mae’r athro wedi dyfod, ac yn galw amdanat.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw amdanat.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl iddi ddweud hyn, aeth yn ei hôl a dweud yn dawel fach wrth Mair, “Mae'r Athro yma, ac mae'n gofyn amdanat ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddi ddweud hyn, aeth ymaith a galw ei chwaer Mair a dweud wrthi o'r neilltu, "Y mae'r Athro wedi cyrraedd, ac y mae am dy weld."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddi ddywedyd hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd ei chwaer Mair, ac a ddywedodd yn ddirgel, Y mae yr Athraw yma, ac y mae yn dy alw di.