John 11:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan clybu hi the, hi a godes yn ebrwydd, ac a ddaeth ataw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hithau, pan glybu hyn, a gododd ar frys ac a aeth Atto.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywodd hithau hynny, y mae’n codi i fyny ar unwaith, a chychwynnodd tuag ato,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd Mair hyn, dyma hi'n codi ar frys i fynd ato.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd Mair hyn, cododd ar frys a mynd ato ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hithau cyn gynted ag y clybu, a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef.