John 11:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny yd anvonawdd y chwioredd ef attaw gan ddywedyt, Arglwydd, wely, yr hwn a gery di, ’sy ’n glaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y danfonodd y chwiorydd Atto, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, yr hwn yr wyt yn ei garu, claf yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly anfonodd y chwiorydd ato a dywedyd: “Arglwydd, dyma’r hwn sydd hoff gennyt yn glaf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae'r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r chwiorydd yn anfon neges at Iesu, “Arglwydd, mae dy ffrind annwyl di'n sâl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd y chwiorydd, felly, neges at Iesu: "Y mae dy gyfaill, syr, yma'n wael."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae yr hwn sydd hoff genyt ti yn glaf.