John 11:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit ny ddaethei ’r Iesu etwa ir dref, and ydd oedd ef yn y lle y cyfwrddesei Martha ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ni ddaethai’r Iesu etto i’r pentref, ond yr oedd etto yn y fan lle y cyfarfu Martha ag Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond nid oedd yr Iesu wedi cyrraedd eto i’r dref, ond yr oedd eto yn y lle y cyfarfu Martha ag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(A'r Iesu ni ddaethai eto i'r dref, ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha ag ef.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Doedd Iesu ddim wedi cyrraedd y pentref eto, roedd yn dal yn y fan lle roedd Martha wedi ei gyfarfod.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oedd Iesu wedi dod i mewn i'r pentref eto, ond yr oedd yn dal yn y fan lle'r oedd Martha wedi ei gyfarfod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
(Yn awr, nid oedd yr Iesu hyd yn hyn wedi dyfod i'r pentref, ond yr oedd eto yn y lle y cyfarfuasai Martha âg ef).