John 11:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr Iudd æ on yr ei oeddent y gyd a hi yn tuy, ac y confforddient hi, pan wel e sont Vair, a’ ch vy ody o hanei ar ffrwst, a’ mynet allan, y dilinesōt hi, gan ðywedyt, Mae hi yn mynet i’r bedd, y wylaw yno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, yr Iwddewon, y rhai oedd gyda hi yn y tŷ ac yn ei chysuro, gan weled Mair mai ar frys y codasai ac yr aethai allan, a’i canlynasant hi, gan dybied ei bod yn myned at y bedd fel y gwylai yno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd yr Iddewon a oedd gyda hi yn y tŷ ac yn ei chysuro, fod Mair wedi cyfodi yn sydyn a myned allan, dilynasant hi, gan dybio ei bod yn myned at y bedd i alaru yno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr Iddewon y rhai oedd gyda hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frys, ac yn myned allan, a'i canlynasant hi, gan ddywedyd, Y mae hi'n myned at y bedd, i wylo yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl o Jwdea wedi bod gyda Mair yn y tŷ yn cydymdeimlo gyda hi. Pan welon nhw hi'n codi mor sydyn i fynd allan, dyma nhw'n mynd ar ei hôl, gan feddwl ei bod hi'n mynd at y bedd i alaru.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd yr Iddewon, a oedd gyda hi yn y tu375? yn ei chysuro, fod Mair wedi codi ar frys a mynd allan, aethant ar ei hl gan dybio ei bod hi'n mynd at y bedd, i wylo yno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iuddewon gan hyny, y rhai oedd gyd a hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, wedi gweled Mair yn codi yn ebrwydd ac yn myned allan, a'i canlynasant hi, gan dybied ei bod yn myned at y bedd, i alaru yno.