John 11:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno gwedy dyvot Mair ir lle ’r oedd yr Iesu, a’ ei weled ef, hi a gwympawdd y lawr wrth y draet ef, gan ddywedyt wrthaw, Arglwydd, pe besyt’ yma, ny besei varw ve‐brawd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Mair, gan hyny, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, pan y’i gwelodd, a syrthiodd wrth Ei draed, gan ddywedyd, Pe buasit yma, ni fuasai farw fy mrawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddaeth Mair i’r lle yr oedd Iesu, wedi ei weled, syrthiodd wrth ei draed a dywedodd wrtho: “Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, a'i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan gyrhaeddodd Mair Iesu a'i weld, syrthiodd wrth ei draed a dweud, “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan ddaeth Mair i'r fan lle'r oedd Iesu, a'i weld, syrthiodd wrth ei draed ac meddai wrtho, "Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny Mair, pan ddaeth i'r lle yr oedd yr Iesu, a'i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni fuasai farw fy mrawd.