John 11:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hynny pan welas yr Iesu hi yn wylaw, a’r Iuðaeon hefyd yn wylaw r’ ei ddaethei y gyd ac yhi, ef a g riddvanodd yn yr yspryt, ac a ymgynnyrfodd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr Iesu, gan hyny, pan welodd hi yn gwylo, a’r Iwddewon y rhai a ddaethent gyda hi, yn gwylo, a riddfanodd yn yr yspryd ac yr ymgynhyrfodd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly pan welodd yr Iesu hi’n galaru a’r Iddewon a ddaethai gyda hi yn galaru, ffromodd yn yr ysbryd ac ymgynhyrfodd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a'r Iddewon y rhai a ddaethai gyda hi yn wylo, a riddfanodd yn yr ysbryd, ac a gynhyrfwyd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth ei gweld hi'n wylofain yn uchel, a'r bobl o Jwdea oedd yno yn wylofain gyda hi, cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth ei gweld hi'n wylo, a'r Iddewon oedd wedi dod gyda hi hwythau'n wylo, cynhyrfwyd ysbryd Iesu gan deimlad dwys.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu gan hyny, pan y gwelodd hi yn galaru, a'r Iuddewon y rhai a ddaethai gyd â hi yn galaru, a gyffrôdd yn aruthr yn yr yspryd, ac a gynhyrfodd ei hun,