John 11:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei o hanaddynt a ddywedent, Any allesei hwn a agorawð lygeit y dall, wneuthur hefyt, val na bysei hwn varw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Hwn a agorodd lygaid y dall, beri na fuasai chwaith i hwn farw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond meddai rhai ohonynt: “Oni allai hwn, agorwr llygaid y dall, wneuthur â hwn hefyd na byddai farw?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd rhai ohonyn nhw'n dweud, “Oni allai hwn, roddodd ei olwg i'r dyn dall yna, gadw Lasarus yn fyw?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd rhai ohonynt, "Oni allai hwn, a agorodd lygaid y dall, gadw'r dyn yma hefyd rhag marw?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhai o honynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dyn dall, beri na buasai hwn farw chwaith?