John 11:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ’r Iesu drachefyn a g riddvanodd yntho yhun, ac a ddaeth i’r bedd. A’ gogof yd oedd, a’ llech a ðodesit arno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr Iesu, gan hyny, gan riddfan trachefn Ynddo Ei hun, a ddaeth at y bedd; a gogof oedd, a maen oedd yn gorwedd wrtho.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly ffromodd yr Iesu drachefn ynddo’i hun, ac aeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen wedi ei osod arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo'i hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n dal wedi cynhyrfu pan ddaeth at y bedd. (Ogof oedd y bedd, a charreg wedi ei gosod dros geg yr ogof.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dan deimlad dwys drachefn, daeth Iesu at y bedd. Ogof ydoedd, a maen yn gorwedd ar ei thraws.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Iesu gan hyny, gan gyffroi yn aruthr drachefn ynddo ei hun, sydd yn dyfod at y bedd: ac ogof oedd, a maen a ddodasid yn ei herbyn.