John 11:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedawdd yr Iesu, Cymerwch ymaith y llech. Martha chwaer hwn a veisei varw, a ddyvot wrthaw, Arglwydd, y mae ef weithian yn drewi: can ys e vu varvv er ys pedwar diernot,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd yr Iesu, dygwch ymaith y maen. Dywedyd Wrtho a wnaeth chwaer yr hwn a fu farw, sef Martha, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi, canys yn ei bedwerydd dydd y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yr Iesu: “Symudwch y maen.” Medd Martha, chwaer y marw wrtho: “Arglwydd, y mae’n arogleuo erbyn hyn, oherwydd y mae hi’n bedwerydd dydd arno.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Symudwch y garreg,” meddai. Ond dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud “Arglwydd, bydd yn drewi bellach; mae wedi ei gladdu ers pedwar diwrnod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Symudwch y maen," meddai Iesu. A dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud wrtho, "Erbyn hyn, syr, y mae'n drewi; y mae yma ers pedwar diwrnod."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a ddywed, Codwch ymaith y maen. Martha, — chwaer yr hwn oedd wedi marw, — a ddywed wrtho, Arglwydd y mae efe weithian yn drewi: canys y mae efe yn farw er ys pedwar diwrnod.