John 11:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan glybu ’r Iesu, y y dywedawdd, Ny d yw ’r clefyt hwn yd angeu, eithyr er gogoniant Duw, mal y gogonedder Map Duw trwy hyny.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed hyn, yr Iesu a ddywedodd, Y clefyd hwn nid yw i farwolaeth, eithr er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwyddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi clywed, dywedodd yr Iesu: “Nid yw’r clefyd yma tuag at farwolaeth, ond er mwyn gogoniant Duw, fel y gogonedder mab Duw drwyddo.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw'r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gafodd y neges, meddai Iesu, “Dim marwolaeth fydd yn cael y gair olaf. Na, ei bwrpas ydy dangos mor wych ydy Duw. A bydd Mab Duw yn cael ei anrhydeddu drwyddo hefyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd Iesu, meddai, "Nid yw'r gwaeledd hwn i fod yn angau i Lasarus, ond yn ogoniant i Dduw; bydd yn gyfrwng i Fab Duw gael ei ogoneddu drwyddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu, pan glybu, a ddywedodd, Nid yw y clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwyddo.