John 11:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi ’wn y clywyt vi bop amser, eithyr o bleit y popul ’sy yn sefyll o y amgylch yn y dywedais ym hynn, val y credant, mai tudi am d anvonawð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Myfi a wyddwn Dy fod bob amser yn gwrando Arnaf Fi, eithr o achos y dyrfa sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai Tydi a’m danfonaist I.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
mi wyddwn i dy fod bob amser yn fy ngwrando, ond oherwydd y dyrfa sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, er mwyn iddynt gredu mai ti a’m hanfonodd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a'm hanfonaist i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti'n gwrando arna i bob amser, ond dw i'n dweud hyn er mwyn y bobl sy'n sefyll yma, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Roeddwn i'n gwybod dy fod bob amser yn gwrando arnaf, ond dywedais hyn o achos y dyrfa sy'n sefyll o gwmpas, er mwyn iddynt gredu mai tydi a'm hanfonodd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac myfi a wyddwn dy fod yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y dyrfa sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a'm hanfonaist i.