John 11:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno hwn a vesei varw, a ddaeth allan, wedy rwymo o traed a’ dwylo a rhwym yne, ai wynep a rwymesit a napkyn. Yr Iesu a ddyuot wrthynt, Gellyngwch ef yn rhydd, a’ gedwch iddo wyned ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac allan y daeth yr hwn a fuasai farw, yn rhwym ei draed a’i ddwylaw â llieiniau-claddu, a’i wyneb â napcyn a amrwymwyd. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Daeth y marw allan a’i draed a’i ddwylo wedi eu rhwymo mewn cadachau, ac yr oedd ei wyneb wedi ei rwymo â ffunen. Medd yr Iesu wrthynt: “Rhyddhewch ef, a gedwch iddo fyned.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a'i ddwylo mewn amdo: a'i wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r dyn oedd wedi marw'n dod allan. Roedd ei freichiau a'i goesau wedi eu rhwymo gyda stribedi o liain, ac roedd cadach am ei wyneb. “Tynnwch nhw i ffwrdd” meddai Iesu, “a'i ollwng yn rhydd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y dyn a fu farw allan, a'i draed a'i ddwylo wedi eu rhwymo llieiniau, a chadach am ei wyneb. Dywedodd Iesu wrthynt, "Datodwch ei rwymau, a gadewch iddo fynd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hwn oedd farw a ddaeth allan, wedi ei rwymo draed a dwylaw mewn bedd‐rwymau; a'i wyneb oedd wedi ei rwymo â napcyn. Dywed yr Iesu wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadêwch iddo fyned.