John 11:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno llawer o’r Iuddaeon, y ddaethent at Vair, ac a welesont y pethe, ’rei wnaethoedd yr Iesu, a gredesont yndo ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, llawer o’r Iwddewon, y rhai a ddaethent at Mair ac a welsant yr hyn a wnaeth Efe,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly credodd ynddo lawer o’r Iddewon a ddaethai at Fair ac a welsai’r hyn a wnaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna llawer o'r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly daeth llawer o bobl Jwdea i gredu ynddo — y rhai oedd wedi dod i ymweld â Mair, a gweld beth wnaeth Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly daeth llawer o'r Iddewon, y rhai oedd wedi dod at Mair a gweld beth yr oedd Iesu wedi ei wneud, i gredu ynddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Llawer gan hyny o'r Iuddewon, y rhai a ddaethant at Mair, ac a welsant yr hyn a wnaethai efe, a gredasant ynddo.