John 11:47 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cynullawð yr Archoffeiriait a’r Pharisaieit synneðr, ac ey dywed e sōt, Pa beth a wnawn; can ys y mae’r dyn hwn yn gwneythur llawer o wyrthiae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny y casglodd yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid Gynghor ynghyd, a dywedasant, Pa beth yr ydym yn ei wneuthur, canys y dyn Hwn, llawer o arwyddion y mae Efe yn eu gwneud?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly galwodd y prif offeiriaid a’r Phariseaid gyngor, a dywedasant: “Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur, gan fod y dyn hwn yn gwneuthur llawer o arwyddion?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr archoffeiriaid a'r Phariseaid a gasglasant gyngor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae'r dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid hynny yn galw cyfarfod o'r Sanhedrin Iddewig. “Pam ydyn ni ddim yn gwneud rhywbeth?” medden nhw. “Mae'r dyn yma'n gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny galwodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid gyfarfod o'r Sanhedrin, a dywedasant: "Beth yr ydym am ei wneud? Y mae'r dyn yma'n gwneud llawer o arwyddion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny yr Arch‐offeiriaid a'r Phariseaid a gynullasant Gynghor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? Canys y mae y dyn hwn yn gwneuthur arwyddion lawer.