John 11:50 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac nyd ych yn ystyried y llesa i ni, bot marw vn dyn tros y popul ac na chyfergoller yr oll genetl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a ddywedodd wrthynt, Chwychwi ni wyddoch ddim, ac nid ystyriwch mai buddiol yw i ni fod i un dyn farw dros y bobl, ac nad am yr holl genedl y darffo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac nid ydych yn ystyried ei bod yn ennill i chwi farw o un dyn dros y bobl yn lle dyfod dinistr ar yr holl genedl.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Onid ydy'n well i un person farw dros y bobl nag i'r genedl gyfan gael ei dinistrio?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid ydych yn sylweddoli mai mantais i chwi fydd i un dyn farw dros y bobl, yn hytrach na bod y genedl gyfan yn cael ei difodi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nac yn cyfrif mai buddiol i chwi farw o un dyn dros y bobl, ac na ddyfether yr holl genedl.